Croeso i wefan digwyddiadau y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.
 
Ym mis Hydref 2009, cynhelir cyfres o gynadleddau ar y cyd rhwng APADGOS ac Estyn a fydd yn pennu polisi newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer pob ysgol yng Nghymru - y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion.
 
Cânt eu cynnal fel a ganlyn:
 
8 Hydref - Venue Cymru, Llandudno
13 Hydref - Stadiwm SWALEC, Caerdydd
15 Hydref - Gwesty Parkway, Cwmbrân
 
Lansiwyd y Fframwaith ym mis Chwefror 2008 gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol oes a Sgiliau, a dyma'r polisi cyffredinol sy'n cydlynu pob darn o waith a anelir at wella addysg a lles ein dysgwyr o oedran ysgol yng Nghymru. Cafodd ei dreialu gyda bron i 100 o ysgolion yng Nghymru y llynedd, ac ers hynny mae wedi'i werthuso'n annibynnol ac wedi cael mewnbwn gan bob rhanddeiliad allweddol.
 
Cyflwynir y Fframwaith ledled Cymru ym mis Medi 2010, a bydd cynadleddau'r mis nesaf yn egluro beth mae'n ei olygu i ddyfodol y gymuned addysg yng Nghymru, a sut y bydd Fframwaith Arolygu Cyffredinol 2010 Estyn yn gydnaws ag ef.
 
Bydd gweithdai yn ystyried pynciau sy'n cynnwys cyfranogiad disgyblion, sut y bydd y Ffrwamwith yn mynd i'r afael ag anfantais gymdeithasol a thangyflawni a sut y gallai datblygiad proffesiynol parhaus gefnogi ymarferwyr yn fwy effeithiol.
 
Bydd y cynadleddau yn darparu gwybodaeth hanfodol y bydd ei hangen ar bob ysgol er mwyn cynllunio'n effeithiol ar gyfer y Fframwaith newydd, felly argymhellir yn fawr eich bod yn bresennol.
 
I gofrestru eich lle heddiw cliciwch ar y tab cofrestru uchod neu ffoniwch y llinell gymorth digwyddiadau ar 029 2069 4900.
 
Noder y cynigir lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin felly archebwch yn gynnar fel na chewch eich siomi.